Gweledigaeth y Rhaglen
Gweledigaeth Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin yw darparu gwasanaethau o safon sy’n amddiffyn plant ac oedolion rhag niwed, yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
I gyflawni hyn, mae Bwrdd Iechyd PABM ac awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn gweithio gyda’i gilydd drwy Gydweithfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin, gyda phartneriaid y trydydd sector a’r sector annibynnol. Prif ddiben y gydweithfa yw darparu techneg strategol ar gyfer cydlynu rhaglen o newid mewn cyfres o brosiectau a ffrydiau gwaith y mae partneriaid wedi’u nodi fel blaenoriaeth gyffredin.
Nodau’r Rhaglen
Prif nod y rhaglen yn y tymor hir yw sicrhau bod gwasanaethau’n gydnerth ac yn gynaliadwy a bod gwelliannau y gellir eu dangos yng nghyflwyniad gwasanaethau ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth ar draws ardal PABM, gan gynnwys CBS Pen-y-bont ar Ogwr, CBS Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe. Mae’r Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol dan bwysau ar hyn o bryd ac mae galw cynyddol amdanynt. Felly prif nod y rhaglen yw gwella gwasanaethau er mwyn osgoi cynnydd yn y costau ac i sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Er mwyn gwneud hyn, mae’r rhaglen yn ymdrechu i gydweithio’n effeithiol â’i phartneriaid er mwyn defnyddio’i gallu mewn modd mwy effeithlon ac effeithiol a fydd yn arbed amser, adnoddau, arbenigedd ac yn cyfrannu at wella lles dinasyddion.
Nodau allweddol Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin yw:
- Hyrwyddo ataliaeth a lles, o safbwynt sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, a fydd yn cefnogi ac yn cryfhau’r gofal a ddarperir yn ogystal â buddion iechyd a lles y bobl yn rhanbarth Bae’r Gorllewin.
- Integreiddio gwasanaethau’n fwy effeithiol er lles defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
- Canolbwyntio ar yr unigolyn drwy ymagwedd sy’n ymrwymedig i bersonoli, annibyniaeth, cynhwysiad cymdeithasol a dewis.
- Cyflawni cyfrifoldeb a rennir sy’n sicrhau bod oedolion a phlant sydd mewn perygl o niwed yn cael eu diogelu yn erbyn pob math o gam-drin drwy weithio gyda’i gilydd i gadw oedolion a phlant yn ddiogel ac i hyrwyddo eu lles.
- Gwella gwasanaethau er mwyn osgoi costau gwasanaeth cynyddol ac i sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol wrth wynebu galw cynyddol a’r hinsawdd ariannol bresennol.
- Cydnabod na fydd newidiadau cynyddol i fodelau gofal presennol yn ddigonol a bod angen ymagwedd gryfach i roi modelau blaengar ar waith sy’n briodol ar gyfer anghenion y boblogaeth.
Llywodraethu
Mae pob sefydliad partner yn chwarae rôl lawn wrth arwain a chyfranogi mewn gwahanol agweddau ar y rhaglen. Er enghraifft, Dinas a Sir Abertawe yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y rhaglen o ran ariannu a chefnogi’r rhaglen.
Mae Bwrdd Iechyd PABM a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbotyn arwain elfen gwasanaethau cymunedol y rhaglen ar y cyd, sydd hefyd yn rhan o fenter ‘Newid er Gwell’ y Bwrdd Iechyd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynnal y Gwasanaeth Integredig Cefnogi Teuluoedd rhanbarthol. Mae cynnwys partneriaid o’r trydydd sector a’r sector annibynnol yn cynyddu’n strategol ac yn lleol hefyd lle darperir y gwasanaethau. Mae cynllunio a datblygu prosiectau hefyd wedi cynnwys partneriaid a rhanddeiliaid ehangach.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n cynnwys arweinwyr y 3 awdurdod lleol, deiliaid portffolio, Cadeirydd Bwrdd Iechyd PABM a’r Prif Weithredwyr, ynghyd â chynrychiolaeth o’r Trydydd Sector gyda Chyfarwyddwr un o’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol. Mae’r Bwrdd yn rhoi trosolwg strategol o Gydweithfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin o ran ei blaenoriaethau ac mae’n bwynt cyfeirio i gynnwys partneriaid ehangach.
Grŵp Arweinyddiaeth Bae’r Gorllewin: Sefydlwyd Grŵp Arweinyddiaeth Bae’r Gorllewin ym mis Ionawr 2012 ac mae’n cynnwys Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr perthnasol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd PABM.
Tîm y Rhaglen: Mae Tîm y Rhaglen yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phenaethiaid Gwasanaethau ar draws y rhanbarth, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ranbarthol a Rheolwyr Prosiectau. Ei ddiben yw sicrhau cyflawni’r canlyniadau a’r manteision a nodwyd ym mhob un o brosiectau Bae’r Gorllewin a darparu trosolwg strategol/adrodd ac eithrio’r ffrydiau gwaith cydweithredol ‘busnes fel arfer’.
Mae Tîm y Rhaglen hefyd yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer rhoi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar waith yn rhanbarthol.
Byrddau Prosiectau: Mae sawl bwrdd a grŵp gweithredol wedi’u sefydlu i oruchwylio cylch gwaith pob un o ffrydiau gwaith Bae’r Gorllewin.
Panel Rhanbarthol Dinasyddion: Sefydlwyd Panel Rhanbarthol Dinasyddion Bae’r Gorllewin yn 2016, â’r nod o ddarparu llais strategol cryf i randdeiliaid, a chynnig mwy o ymwybyddiaeth o weithgareddau Rhaglen Bae’r Gorllewin a chyfranogaeth ynddynt, a dealltwriaeth gliriach o sut gall sefydliadau weithio gyda’i gilydd i gyflwyno yn erbyn gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Daw aelodaeth y panel o restrau postio’r tri Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae aelodaeth yn ‘hyblyg’ gan sicrhau bod cyfarfodydd ac unrhyw weithgareddau cynnwys yn agored i bob parti â diddordeb (defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, aelodau’r teulu, cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r maes iechyd a gofal cymdeithasol ac aelodau etholedig awdurdodau lleol).
Y Bwrdd Iechyd a’r awdurdodau lleol a’u partneriaid sy’n parhau i fod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ymysg y sefydliadau partner.