Gydag un o bob pedwar person yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ei fywyd, mae’r angen i gynyddu ymwybyddiaeth ac annog ymagweddau cefnogol at iechyd meddwl a dealltwriaeth ohono yn flaenoriaeth allweddol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae cynghorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ynghyd â Bwrdd Iechyd PABM yn gweithio gyda’i gilydd i ddangos eu hymroddiad i’r achos drwy lofnodi addewid Amser i Newid Cymru. Mae’r addewid yn ddatganiad cyhoeddus a wneir gan sefydliadau sydd am fynd i’r afael â’r stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Mae llofnodi’r addewid yn golygu bod pob un o’r sefydliadau’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi gweithwyr ac aelodau o’r gymuned sy’n brwydro yn erbyn problemau iechyd meddwl.Mae cynllun gweithredu manwl yn cyd-fynd â’r addewid, ac mae hwn yn amlinellu’r camau ymarferol y mae pob sefydliad yn eu cymryd i hyrwyddo iechyd meddwl a lles. Mae camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys darparu gwasanaeth cwnsela i staff, yn ogystal â chyrsiau a digwyddiadau â’r nod o leihau straen a gwella lles personol.
Llofnodir yr addewid yn ffurfiol ddydd Iau, 11 Chwefror yng nghyfarfod Fforwm Partneriaeth Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin. Mae aelodaeth y fforwm yn cynnwys Prif Weithredwyr ac Arweinwyr Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a Chadeirydd Bwrdd Iechyd PABM.
Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chadeirydd cyfarfod Fforwm Partneriaeth mis Chwefror:
“Rydym yn falch iawn o ymuno â’r ymgyrch sy’n anfon neges glir o gefnogaeth i’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl o bob math. Mae hyn yn rhywbeth sy’n cyffwrdd â bywydau miloedd ar draws y rhanbarth ac mae’n bwysig ein bod yn annog pobl i siarad am ragfarn a gwahaniaethu a’u herio”.
Am fwy o wybodaeth am Amser i Newid Cymru, ewch i www.amserinewidcymru.org.uk
Mae cyfres o ganllawiau hunangymorth ar iechyd a lles emosiynol ar gael yn www.selfhelpguides.ntw.nhs.uk/abmu ac fe’u lluniwyd yn 2015 fel rhan o brosiect Ataliaeth a Lles Rhaglen Bae’r Gorllewin.