Western Bay

Health and social care integration for south west Wales

  • Cartref
  • Gwybodaeth am y Rhaglen
    • Adroddiad Blynyddol Bae’r Gorllewin
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
    • Cynllun Ardal Bae’r Gorllewin
    • Panel Rhanbarthol Dinasyddion
    • Archif Cylchlythyron
  • Ffydiau Gwaith Y Rhaglen
    • Gwasanaethau Cymunedol 
    • Comisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth
    • System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
    • Atal a Lles
    • Gofalwyr
    • Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
    • Elfennau eraill o’r Rhaglen
      • Byrddau Diogelu Bae’r Gorllewin
      • Rhaglen Cefnogi Pobl
      • Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin
      • Bwrdd Cynllunio’r Ardal
      • Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd
      • Ymynwch â’n Cymuned Ofalgar
  • Deddf GCLL (Cymru) 2014
    • Hyb Gwybodaeth a Dysgu
  • Manylion Cysylltu
You are here: Home / Asesiad Poblogaeth Bae’r Gorllewin

Asesiad Poblogaeth Bae’r Gorllewin

Beth ydyw?

PA imageYn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae’n trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru. Mae’n gosod pwyslais cryf ar ofal sy’n canolbwyntio ar y person a phwysigrwydd gweithio ar y cyd, yn ogystal â gofyn i ddarparwyr gwasanaeth ystyried ffyrdd newydd a blaengar i wneud gwasanaethau’n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae Adran 14A y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gasglu gwybodaeth am anghenion gofal a chefnogaeth y boblogaeth. Gelwir hyn yn asesiad poblogaeth a’i fwriad yw helpu darparwyr gwasanaeth i ddeall mwy am fywydau pobl yn yr ardal a’u galluogi nhw i wneud penderfyniadau gwell a mwy hyddysg am y ffordd y mae gwasanaethau gofal a chefnogaeth yn cael eu cyflwyno.

Ym Mae’r Gorllewin, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) wedi dod ynghyd â sefydliadau partner yn y trydydd sector i ymgymryd â’r ymarfer hwn, sy’n ystyried:

  • yr amrywiaeth a’r lefel o wasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth pobl sy’n byw yn y rhanbarth
  • lle mae bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth, a sut gellir mynd i’r afael â’r rhain, a
  • pha newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau yn y dyfodol.Mae’r asesiad hefyd yn ystyried anghenion cefnogi gofalwyr, yn ogystal ag ystyried yr amrywiaeth a’r lefel o wasanaethau ataliol sydd ar gael ar draws y rhanbarth.

Sut gallaf weld yr wybodaeth a gasglwyd fel rhan o’r asesiad poblogaeth?

Cyflwynir cynnwys yr asesiad poblogaeth mewn tair ffordd wahanol.

Dyma nhw:

  1. Gwefan sy’n nodi penawdau allweddol anghenion gofal a chefnogaeth, gwasanaethau a materion ar gyfer ardal Bae’r Gorllewin. Ewch i www.baergorllewin.org.uk
  2. Cyfres o benawdau y gellir eu lawrlwytho ar ffurf PDF, sy’n rhoi disgrifiad manylach o’r canfyddiadau. Gellir dod o hyd i’r rhain ar ddiwedd pob pennod ar y wefan.
  3. Mae cyfres o Adroddiadau Technegol/Papurau Pwnc sy’n cynnwys dadansoddiad manwl o’r dystiolaeth a gasglwyd (ar gael ar gais drwy is-adran ‘Cyswllt’ ar wefan yr Asesiad Poblogaeth).

Beth sy’n digwydd nesaf?

Y cam nesaf fydd datblygu cynllun ardal ar gyfer Bae’r Gorllewin, a fydd yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad poblogaeth i nodi meysydd allweddol o newid a fydd yn cael ei drafod mewn ffordd gyd gysylltiedig dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd yr asesiadau poblogaeth yn cael eu hailadrodd bob pedair blynedd a byddant yn cael eu hadolygu yn ystod yr amser hwnnw, gan roi cyfle i bartneriaid Bae’r Gorllewin gynnwys gwybodaeth newydd a sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro’r effeithiol. Dyma’r tro cyntaf i asesiad poblogaeth gael ei lunio a bydd bylchau mewn gwybodaeth a newidiadau i’w gwneud yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Asesiad Poblogaeth Bae’r Gorllewin, cysylltwch â swyddfa rhaglen Bae’r Gorllewin drwy e-bostio western.bay@swansea.gov.uk neu drwy ffonio 01792 633805.

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg

Ein Cylchlythyr

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae’r Gorllewin

Ceir copïau o agendâu a chofnodion y Bartneriaeth Ranbarthol yma 

Rhestr Bostio

* indicates required


Adroddiad Blynyddol

Rhaglen Bae’r Gorllewin ©

Nid yw Rhaglen Bae’r Gorllewin yn gyfrifol am gywirdeb, cyfreithlondeb na chynnwys gwefannau allanol, na dolenni dilynol.

 

YouTube

 

 

 

WG

Partner logos

Copyright © 2019 · Western Bay

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg