Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae’r Gorllewin yn ffurfiol yn 2016, a chynhaliwyd y cyfarfod ffurfiol cyntaf ym mis Tachwedd 2016. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 rôl statudol ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, er rhagflaenwyd hyn gan Fforwm Partneriaeth Ranbarthol Bae’r Gorllewin, a sefydlwyd yn wreiddiol ar sail anstatudol yn 2014 i ddatblygu a goruchwylio Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin.
Mae’r bwrdd yn gyfrifol am reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chefnogaeth effeithiol ar waith i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y ffordd orau.
Ceir copïau o agendâu a chofnodion y Bartneriaeth Ranbarthol y gellir eu lawrlwytho isod. Sylwer y caiff dogfennau eu lanlwytho pan fyddant wedi’u cymeradwyo’n ffurfiol gan y bwrdd yn y cyfarfod dilynol yn unig (h.y. caiff cofnodion mis Gorffennaf eu cymeradwyo yng nghyfarfod mis Hydref, a’u lanlwytho ynghyd â’r agenda cyn gynted â phosib yn dilyn y cyfarfod hwnnw). Dylid ystyried amser ar gyfer cyfieithu i’r Gymraeg hefyd.
BRhBG – Agenda – 30.10.18 – Cymraeg.docx BRhBG – Cofnodion – 30.10.18 – Cymraeg.docx BPRh BG – Agenda – 19.07.18 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 19.07.18 – Cymraeg BPRh BG – Agenda – 09.04.18 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 09.04.18 – Cymraeg BPRh BG – Agenda – 07.12.17 – Cymraeg.docx BPRh BG – Cofnodion – 07.12.17 – Cymraeg.docx BPRh BG – Agenda – 21.09.17 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 21.09.17 – Cymraeg BPRh BG – Agenda – 22.06.17 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 22.06.17 – Cymraeg BPRh BG – Agenda – 23.03.17 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 23.03.17 – Cymraeg BPRh BG – Agenda – 24.01.17 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 24.01.17 – Cymraeg BPRh BG – Agenda – 23.11.16 – Cymraeg BPRh BG – Cofnodion – 23.11.16 – Cymraeg