Os ydych yn hoffi gweithio gyda phobl ac mae gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau pob dydd, gallai gyrfa ym maes gofal fod yn berffaith i chi. Boed hynny drwy helpu pobl i barhau i fod yn gorfforol actif neu eu helpu gyda’u gofal personol, rôl gweithiwr gofal yw helpu i wella ansawdd bywyd pobl y mae angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnynt.
Pa sgiliau neu gymwysterau fyddai eu hangen arnaf?
Mae swyddi ar gael ar amrywiaeth o lefelau gwahanol. Mae’n bosib bod yn weithiwr gofal heb lawer o gymwysterau.
Yr hyn sy’n wirioneddol hanfodol yw’r gallu i wneud y canlynol:
- Dangos empathi tuag at bobl o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau
- Cyfathrebu’n effeithiol
- Bod yn gryf ac yn ddibynadwy fel aelod o dîm
Mae rhai darparwyr gofal hefyd yn annog eu gweithwyr i astudio am gymwysterau proffesiynol, gan eu galluogi i anelu at swyddi lefel uwch yn y sector.
Dewch o hyd i Swyddi Gwag:
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd, edrychwch ar y gwefannau yma:
Darparwyr Gofal ym Mhen-y-Bont:
- Allied Healthcare
- Crossroads
- Care Direct
- Everycare
- Glamorgan Care
- Hafod Care Association
- Reach Supported Living
- Serendipity
- Care Cymru
- Steddy Ltd – Gweler https://youtu.be/fQtEJAoGKeY
- Eldercare – Galwch 01656 789 090
Darparwyr Gofal yn Abertawe:
- Deluxe Homecare
- Allied Healthcare
- Aylecare
- Carewatch
- Community Lives Consortium
- Crosshands Home Services
- GRS Care Ltd – Ebostiwch jobs@grscare.co.uk neu galwch 01792 776238
- Home Instead
- i-Care – Ebostiwch patricia.martin@icaredomcare.co.uk neu galwch 01792 794320
- MiHomecare
- Pegasus
- RSD Home Care – Ebostiwch recruitment@rsd.uk.com neu galwch 01792 585859
- Swansea Bay Home Care Services Ltd
Darparwyr Gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot:
- Steddy Ltd – Gweler https://youtu.be/fQtEJAoGKeY
- Crosshands Home Services
- Deluxe Homecare
- Seren Support Services
- Allied Healthcare
- Haven Home Care Services (UK) Ltd
- G.R.S Care Ltd – Ebostiwch jobs@grscare.co.uk neu galwch 01792 776238
- Care Cymru Services
- Abacare
- Community Lives Consortium
- Horizon Support Services
- Cadog Homecare Services
- J Care
- Modern Care – Ebostiwch stacey@moderncare.co.uk
- Neath Care Cooperative Ltd – Ebostiwch careinneath@ntlbusiness.com
- Millenium Care – Ebostiwch milleniumcare2000@gmail.com
Bod yn Gynorthwy-ydd Personal Gofal Cymdeithasol:
Cyflogir Cynorthwywyr Personal Gofal Cymdethasol gan bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol i’w galluogi nhw i fyw mor annibynnol â phosib. Taliadau arian parod a roddir gan y cyngor fel bod pobl yn gallu trefnu a thalu am eu gofal a’u cefnogaeth eu hunain yw taliadau uniongyrchol. Mae pobl yn aml yn defnyddio’r taliadau i gyflogi cynorthwy-ydd personal yn uniongyrchol i helpu â thasgau byw bob dydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a gofal personol.
I gael mwy o wybodaeth am swydd cynothwy-ydd personol, i weld swyddi gwag presennol yn Nghastell-nedd Port Talbot ac i lenwi ffurflen gais ar-lein, ewch i www.npt.gov.uk/pa
I gyflwyno cais i fod yn Gynorthwy-ydd Personol/Gynorthwy-ydd Cymorth Byw’n Annibynnol yn Abertawe ac i gwblhau ffurflen gais ar-lein, ewch i www.abertawe.gov.uk/SwyddiGwagCynorthwywyrCefnogi