Western Bay

Health and social care integration for south west Wales

  • Cartref
  • Gwybodaeth am y Rhaglen
    • Adroddiad Blynyddol Bae’r Gorllewin
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
    • Cynllun Ardal
    • Archif Cylchlythyron
  • Ffydiau Gwaith Y Rhaglen
    • Gwasanaethau Cymunedol 
    • Comisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth
    • System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
    • Atal a Lles
    • Gofalwyr
    • Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
      • Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin – Sesiynau Hyb Cynghori
    • Elfennau eraill o’r Rhaglen
      • Byrddau Diogelu
      • Rhaglen Cefnogi Pobl
      • Gwasanaeth Mabwysiadu
      • Bwrdd Cynllunio’r Ardal
      • Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd
      • Ymynwch â’n Cymuned Ofalgar
  • Deddf GCLL (Cymru) 2014
    • Hyb Gwybodaeth a Dysgu
  • Manylion Cysylltu
You are here: Home / Ffydiau Gwaith y Rhaglen / Gwasanaethau Cymunedol 

Gwasanaethau Cymunedol 

Y Gwasanaethau Cymunedol yw ffrwd waith fwyaf Bae’r Gorllewin a bellach fe’i hystyrir yn rhaglen ynddo’i hun.

Mae Rhaglen y Gwasanaethau Cymunedol yn canolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau gofal ar gyfer pobl hŷn drwy symud oddi wrth y modelau gofal traddodiadol a sefydliadol, i gefnogaeth sy’n seiliedig ar y gymuned sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Fel rhan o’r gwaith parhaus i weithredu’r ddogfen ymrwymo ar y cyd a lofnodwyd gan Fwrdd Iechyd PABM a chabinetau tri Awdurdod Lleol, mae’r rhaglen wedi ymgymryd â swm sylweddol o waith dros y deunaw mis diwethaf i roi Cam 1 yr ymrwymiad ar y cyd ar waith.

Ym mis Medi 2013, llofnododd y pedwar sefydliad partner ymrwymiad ar y cyd i gynllunio a gwella gwasanaethau cymunedol.   Fel rhan o’r broses barhaus i roi dogfen yr ymrwymiad ar y cyd ar waith, mae’r rhaglen wedi cyflawni cryn dipyn o waith dros y deunaw mis diwethaf i roi cam 1 ar waith.

Er mwyn sbarduno’r agenda newid pellgyrhaeddol a nodir yn yr ymrwymiad ar y cyd, mae Bwrdd Gwasanaethau Cymunedol wedi cael ei sefydlu, sy’n cwrdd yn fisol ac yn dod ynghyd ag uwch-gynrychiolwyr o’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

Mae’r Bwrdd yn goruchwylio ystod o ffrydiau gwaith allweddol, gan gynnwys:

Cadw pobl hŷn yn iach ac ataliaeth – mae hyn yn cyd-fynd â gwaith prosiect Ataliaeth a Lles Bae’r Gorllewin, yn enwedig mewn perthynas ag ymdrin ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Cryfhau timau cymunedol – mae hyn yn cynnwys datblygu model newydd ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Hŷn, yn ogystal â chyflwyno Gwasanaethau Gofal Canolraddol yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

Sefydlu gwasanaethau cefnogi gwell – gan gynnwys gweithio gyda Phenaethiaid TGCh ar yr Achos Busnes ar gyfer Technoleg Gymunedol a menter newydd â’r nod o weithredu safonau mewn cartrefi gofal.

‘Yr Hyn sy’n Bwysig i Mi’ – Y Model Trosgynnol

Roedd llawer o Gam 1 yn ymwneud â datblygu’r model gofal canlynol ar gyfer pobl hŷn.

Defnyddiwyd safbwyntiau rhanddeiliaid (defnyddwyr gwasanaeth, awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd) i lunio’r model, o’r enw ‘Yr Hyn sy’n Bwysig i Mi’.

Bydd y model yn llywio gwaith Rhaglen y Gwasanaethau Cymunedol wrth iddo symud ymlaen i Gam 2 ei ddatblygiad (yn amodol ar gytundeb ffurfiol gan Grŵp Arweinyddiaeth Bae’r Gorllewin ym mis Medi 2015).

Cartrefi Gofal

Sefydlwyd grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer y ffrwd waith Cartrefi Gofal ym mis Rhagfyr 2014 er mwyn datblygu Strategaeth Gomisiynu Cartrefi Gofal Rhanbarthol. Mae’r aelodaeth yn cynnwys awdurdodau lleol (swyddogion contractio gofal preswyl pobl hŷn), Penaethiaid Nyrsio, Pennaeth Polisi a Rheoliad Bwrdd Iechyd PABM, Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu, Ymgynghorwyr Fferylliaeth a Chynrychiolwyr Hyfforddiant.

Mae cynnydd da’n cael ei wneud wrth ddatblygu strategaeth, a fydd yn cynnwys cynllun gweithredu penodol i sicrhau cyflwyniad cyson ar draws y rhanbarth.

Mae’r grŵp hefyd yn goruchwylio cyflwyniad y Fframwaith Ansawdd Rhanbarthol ar gyfer cartrefi gofal yn nhair ardal Bae’r Gorllewin (a ddatblygwyd gan bartneriaid o Fy Mywyd Mewn Cartref Cymru/Age Cymru). Mae hyn yn cael ei dreialu mewn nifer bach o gartrefi a bwriedir cael gwerthusiad llawn a lansiad ffurfiol yn hydref 2015.  

Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (TIMPH)

Sefydlwyd Fforwm Meddygol TIMPH gydag aelodau o bob maes arbenigol. Cyfarfu’r grŵp ym mis Gorffennaf a chytunodd ar rai blaenoriaethau cychwynnol o ran integreiddio â’r model cymunedol. Bydd y grŵp yn cwrdd eto ar 13 Awst.

Yng nghyfarfod y Grŵp Arweinyddiaeth ar 1 Gorffennaf, cytunwyd y bydd model gwasanaethau cymunedol y dyfodol yn cynnwys Iechyd Meddwl Pobl Hŷn gyda staff TIMPH mewn tîm unigol. Felly bydd y Rhaglen Gwasanaethau Cymunedol yn gweithio gyda chydweithwyr Iechyd Meddwl i ddechrau cynllunio.

Mabwysiadwyr Cynnar ar gyfer Cynllunio Gofal Rhagweledol

Mae cryn waith wedi cael ei wneud wrth gynllunio rhoi’r llif gwaith hwn ar waith. Mae cyfres o sesiynau wedi cael eu cynnal gyda thimau rhwydwaith dros y tri mis diwethaf, gan arwain at ychydig o ganlyniadau pwerus o rwydwaith Afan yn eu cyfarfod diweddaraf ar 1 Gorffennaf. Er enghraifft, nodwyd 25 o bobl ddiamddiffyn a oedd yn hysbys i sawl gwasanaeth sy’n gysylltiedig â Meddygfa King’s yn rhwydwaith Afan. Mae gwaith i lunio cynlluniau gofal ar gyfer y bobl hyn wedi dechrau ac mae ymyriadau ar gyfer argyfyngau a allai ddigwydd yn fuan wedi cael eu rhoi ar waith.

Lluniwyd cynllun carreg filltir manwl ar gyfer y mabwysiadwyr cynnar yn ogystal â gwaith i lunio cynnig terfynol i’r Gronfa Gofal Cychwynnol. Fodd bynnag, caiff y prosiect hwn ei oruchwylio trwy dîm rhaglen dynodedig dan gadeiryddiaeth Paul Roberts, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd PABM, sy’n adrodd yn uniongyrchol i Grŵp Arweinyddiaeth Bae’r Gorllewin.

I gael mwy o wybodaeth am weithgarwch Rhaglen y Gwasanaethau Cymunedol,
e-bostiwch western.bay@swansea.gov.uk

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg

Ein Cylchlythyr

Rhestr Bostio

* indicates required


Copyright © 2019 · Western Bay

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg