Mae’r Bwrdd Trawsnewid Oedolion yn goruchwylio trawsnewidiad y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan sicrhau bod partneriaid yn cydweithio i wella canlyniadau i ddinasyddion ledled rhanbarth Gorllewin Morgannwg.
Mae’r Bwrdd Trawsnewid Oedolion yn gyfrifol am:
- fonitro cynnydd cwmpas y gwasanaethau
- sicrhau bod gwasanaethau’n cyflawni’r canlyniadau a ragwelir i’r grwpiau defnyddwyr gwasanaeth bwriadedig
- monitro cyllidebau i sicrhau gwerth am arian
- sicrhau bod cydgynhyrchu’n cael ei wreiddio ar draws pob rhaglen waith
- sicrhau y crybwyllir Gwerth Cymdeithasol ac y caiff ei adolygu fel y bo’n briodol.